| Enlish Translated site | Home |
CARNIFAL CREIGIAU 2011
DYDD SADWRN, 25 MEHEFIN 2011
Dyma un o uchafbwyntiau bywyd ein bro.
Pwyllgor bach a brwd
y llynedd, codwyd cyfanswm anhygoel o £6000 i gyrff lleol ac i gynnal ein cyfleusterau. |
|||||
|
Wythnos Carnifal 2010 Cofiwch nodi’r dyddiadau mawr yma – maen nhw’n creu ton o frwdfrydedd mae llu o weithgareddau wedi eu trefnu cyn ac yn ystod y diwrnod mawr: |
|||||
|
Y ras hwyl Paratowch ar gyfer yr hirdaith! Mi fydd y Ras Hwyl am 10.30am ar ddydd Sadwrn, 19 Mehefin 2010 ar y Rec. Mae gwobrau ar gyfer pob oedran, ond mae tadau’n gyndyn i ymuno felly blantos – gwthiwch nhw! Carnifal Creigiau Yr orymdaith Mae’r fflotiau lliwgar yn ymlwybro drwy’r pentref, ar droed neu ar gerbyd, gyda thrigolion yr ardal yn dilyn. Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn cynnig fflot. Mi fydd manylion yn cael eu hanfon adref gyda’r plant, neu e-bostiwch cjonesboy@aol.com erbyn 31 Mai 2010. Mae yna wobrau i unigolion a grwpiau yn y gystadleuaeth gwisg ffansi. Mae’r orymdaith yn casglu am 1.00pm ac yn dechrau ar ei thaith o gwmpas y pentref i gyrraedd y Rec erbyn 2.00pm a dyma’r hwyl yn dechrau! Cystadleuaeth gwisg ffansi, llwyth o gemau a sioeau, stondinau’n gwerthu popeth dan haul, pabell diodydd, bwyd poeth ac oer, danteithion a melysion a llawer iawn mwy! Mae angen prynu rhaglen y Carnifal i gael mynediad. Maen nhw ar werth cyn ac yn ystod y Carnifal. Diolch yn fawr i gwmniau lleol sy’n hysbysebu ynddi – cofiwch eu cefnogi. Mi welwn ni chi yno!
CARNIFAL CREIGIAU, DYDD SADWRN 26 MEHEFIN 2010 |
|||||
| English Translated site | Home | ||||