Dydd Llun y 25ain o Fehefin am 6.30 y.h yn Neuadd yr Eglwys
MwyNos Fawrth y 26ain am 8.00 y.h yn y Creigiau Inn.
MwyMi fydd y Ras Hwyl am 10.30am ar ddydd Sadwrn, 23fed o Fehefin ar y Rec.
MwyDydd Sadwrn, 23fed o Fehefin ar y Rec. Mae'r orymdaith yn casglu am 1.00pm ac yn dechrau ar ei thaith o gwmpas y pentref i gyrraedd y Rec erbyn 2.00pm a dyma'r hwyl yn dechrau!
MwyCofiwch nodi’r dyddiadau mawr yma – maen nhw’n creu ton o frwdfrydedd mae llu o weithgareddau wedi eu trefnu cyn ac yn ystod y diwrnod mawr.
Paratowch ar gyfer yr hirdaith!
Mae’r fflotiau lliwgar yn ymlwybro drwy’r pentref, ar droed neu ar gerbyd, gyda thrigolion yr ardal yn dilyn.
Mae’r orymdaith yn casglu am 1.00pm ac yn dechrau ar ei thaith o gwmpas y pentref i gyrraedd y Rec erbyn 2.00pm a dyma’r hwyl yn dechrau!
Cystadleuaeth gwisg ffansi, llwyth o gemau a sioeau, stondinau’n gwerthu popeth dan haul, pabell diodydd, bwyd poeth ac oer, danteithion a melysion a llawer iawn mwy!
Mae angen prynu rhaglen y Carnifal i gael mynediad. Maen nhw ar werth cyn ac yn ystod y Carnifal. Diolch yn fawr i gwmniau lleol sy’n hysbysebu ynddi – cofiwch eu cefnogi.
Mi welwn ni chi yno!